Llandybie Male Voice Choir
Côr Meibion Llandybie

CML
Côr Meibion
Llandybie

 

   
   

 

 

 

WELCOME
Home Page
Brief History of the Choir
The Musical Team
Past Foreign Tours
Contact Details
Recordings
Directory of Related Links
Y TÎM CERDDOROL

Y CYFARWYDDWR CERDD

Athro yw David B Jones wrth ei alwedigaeth. Ar hyn o bryd mae'n Bennaeth y Gyfadran Dechnoleg mewn ysgol gyfun fawr leol, yn dysgu pob agwedd o DGCh drwy'r ysgol gyfan hyd at lefel arholiadau allanol.

Astudiodd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin gan fynd ymlaen i Goleg Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Loughbourough. Mae David yn briod ac yn dad i ddau o blant; mae'n byw'n hapus gyda'i wraig Joy ym Mhontaman, Rhydaman.

Mae David wedi bod yn gysylltiedig gyda nifer o gorau, naill ai fel cyfeilydd neu fel arweinydd am nifer o flynyddoedd bellach ac wedi profi llwyddiant o'r radd flaenaf yn ei waith cerddorol, gyda Chôr Meibion Llandybie yn rhoi'r pleser mwyaf o'r cyfan iddo.

Ymysg ei ddiddordebau mae chwarae'r organ: bu'n organydd eglwys am bum mlynedd ar hugain. Bu hefyd yn chwarae'r gitâr a'r ffidil yn ei ieuenctid.

CYFEILYDD
Mrs Gloria Lloyd, BA (Anrh), LRAM, ARCM, LTCL.

Mae galw mawr am wasanaeth Mrs Gloria Lloyd, sy'n byw yn Rhydaman, fel cyfeilydd mewn eisteddfodau yn bennaf ledled de a chanolbarth Cymru. Roedd yn gyfeilydd swyddogol pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nyffryn Lliw.

Astudiodd y piano gyda Mr Horace Field, oedd yn un o diwtoriaid gwreiddiol y Coleg Cerdd a Drama Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Llwyddodd i ennill diploma LRAM mewn cyfeilio ar y piano a'r ARCM ac LCTL (diplomas dysgu).

Mae gan Mrs Gloria Lloyd radd BA (Anrh) o'r Brifysgol Agored hefyd. Mae wedi ymddeol yn ddiweddar o swydd dysgu cerddoriaeth llawn amser yn adran gerdd Ysgol Bishop Vaughan, Treforys, Abertawe.

Mae'n organyddes ac yn gôr feistres yng nghapel Gellimanwydd, Rhydaman.

DIRPRWY GYFEILYDD
Mae Catrin Edwards, IAC, LLCM yn fenyw ifanc dalentog dros ben, yn gyfeilydd penigamp ac yn delynores a gitarydd medrus. Mae wedi cyfeilio i'r côr am nifer o flynyddoedd ac wedi ymweld ag Iwerddon, Llydaw, yr Alban a Norwy ar deithiau gyda Chôr Meibion Llandybie.

Mae Catrin yn gweithio fel bancer buddsoddiadau gyda banc rhyngwladol, ond mae'n mwynhau ei hamser gyda'r côr yn fawr iawn.

Mr David B Jones

Mrs Gloria Lloyd, BA (Anrh), LRAM, ARCM, LTCL.

Catrin Edwards, IAC, LLCM

AMCANION:
Hyrwyddo cerddoriaeth fyw a chodi arian ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol
CROESO
Hafan
Crynodeb o Hanes y Côr
Y Tîm Cerddorol
Teithiau Tramor
Manylion Cyswllt
Recordiau
Rhestr o Gysylltiadau Perthynol

Hafan | Crynodeb o Hanes y Côr | Y Tîm Cerddorol | Teithiau Tramor | Manylion Cyswllt | Recordiau | Rhestr o Gysylltiadau Perthynol

I GYSYLLTU Â NI
114 Blaenau Road
Llandybie
Ammanford
Carms, UK
SA18 3AQ

Ffôn: (01269) 850813

E-bost: keithjones92@aol.com