Mae Llandybie yn un o bentrefi mwyaf Cymru, wedi ei leoli ar ymylon
y maes glo caled ac yn cynnwys un o chwareli calchfaen mwyaf Ewrop.
Cafodd Côr Meibion Llandybie ei ffurfio ym 1908 ac roedd
yn un o gorau meibion cyntaf Sir Gaerfyrddin. Ar y dechrau roedd
mwyafrif aelodau'r côr yn cael eu cyflogi gan gwmnïau
calchfaen lleol neu yn y pyllau glo. Erbyn hyn mae aelodau'r côr
yn cynrychioli pob proffesiwn, yn cynnwys Cyfrifyddion, Gweithwyr
Banc, Peirianyddion, Swyddogion yr Heddlu, Athrawon ac yn y blaen.
Mae'r
côr wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau pwysig ledled
Cymru a'r DU, ac wedi ennill gwobr gyntaf sawl gwaith. Mae Côr
Meibion Llandybie wedi cael llwyddiant yn gyson yn yr Eisteddfod
Genedlaethol, Eisteddfod Aberteifi, Eisteddfod y Glowyr, Porthcawl
ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid.
Mae'r
côr wedi codi arian dros elusennau yn gyson bob blwyddyn
ers ei sefydlu, ac mae cyfanswm yr arian a godwyd erbyn hyn yn
gannoedd o filoedd o bunnoedd.
Er
i'r côr fod mewn bodolaeth am gyfnod mor hir, dim ond saith
o gyfarwyddwyr cerdd fu'n arwain Côr Meibion Llandybie.
Roedd y tri chyfarwyddwr cyntaf yn aelodau o'r un teulu, sef Mr
Evan Thomas, yr arweinydd a sefydlodd y côr, a'i ddau fab,
Arthur Thomas gyntaf ac yna Mr Curwen Thomas.
Bu
farw Mr Curwen Thomas ym 1973, a daeth Mr Ieuan Anthony i gymryd
ei le. Arhosodd Mr Anthony gyda'r côr tan 1976. Ym 1976
gadawodd Mr Ieuan Anthony, a daeth Mrs Indeg Thomas yn arweinydd,
gan aros gyda'r côr am ddwy flynedd ar bymtheg nes i Mr
David B Jones gymryd yr arweinyddiaeth ym 1993. Yn 2008
daeth Alun Bowen arweinydd.
|
Evan
Thomas, arweinydd cyntaf Côr Meibion Llandybie
Alun Bowen, arweinydd presennol Côr Meibion Llandybie
|